GŴYL CYMRU X GŴYL DEWI
Ymuna â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddathlu Gŵyl Dewi 2024!
Pa ffordd well o ddathlu Cymru a’n diwrnod cenedlaethol na thrwy fwynhau pêl-droed, cerddoriaeth a diwylliant o fewn ein cymunedau lleol!
Mae CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru yn dychwelyd i’r cymunedau a gefnogodd ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn 2022 drwy eich gwahodd i gyd-ddathlu ein diwrnod cenedlaethol.
O Abertawe i Wrecsam, Pontypridd i Lanuwchllyn, Caerfyrddin i Ddolgellau – bydd gigs, sgyrsiau a gweithgareddau cymunedol ym mhob cornel o Gymru - gydag ymddangosiadau gan westeion arbennig o fyd pêl-droed Cymru mewn rhai digwyddiadau! Edrycha ar ein rhestr digwyddiadau i weld be sydd ymlaen yn dy ardal di.
Cymru. Pêl-droed. Creadigrwydd. Gorau Chwarae Cyd Chwarae.