Amdanom ni
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi dod at ei gilydd i ddathlu diwylliant a phêl-droed Cymru.
Rydyn ni am i bêl-droed a chreadigrwydd fod wrth galon ein cymunedau ac i chwaraeon a’r celfyddydau fod yn llwyfan i ddangos Cymru ar ei orau, boed hynny ar gae rhyngwladol, neu ar lawr gwlad.
Yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022, cynhaliwyd dros 300 o ddigwyddiadau Gŵyl Cymru ledled Cymru a’r byd. Bu digwyddiadau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol, mewn dros 200 o leoliadau gyda dros 500 o artistiaid. Cynhaliwyd 40 o ddigwyddiadau rhyngwladol hefyd gan gynnwys rhai ym Montreal, Efrog Newydd, Dubai a Munich, i enwi dim ond rhai.
Bydd CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru nawr yn mynd â Gŵyl Cymru ar daith i rai o wyliau mwyaf Cymru. Bydd digwyddiadau at ddant pawb sy’n ymddiddori yn y celfyddydau a phêl-droed yn ymddangos mewn gwyliau poblogaidd fel Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, Pride Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Ymunwch â ni! Dewch i ddathlu creadigrwydd ac amrywiaeth ein Wal Goch, a rhannu ein celfyddydau a’n diwylliant hefo’r byd.
Gorau Chwarae Cyd Chwarae.