Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 - Boduan - 5 Awst 2023 - 12 Awst 2023
Llun, 07/08/23
Spirit Of 58: Ffasiwn a Phêl-droed
12:00 - Caffi Maes B
Ani Glass fydd yn sgwrsio â sylfaenydd Spirit of 58, Tim Williams am ei label ffasiwn pêl-droed, a sut daeth het fwced Cymru yn fyd-enwog.
Mawrth, 08/08/23
Cylchdro: Pêl-droed, Merched a'r Mislif
13:30 - Gwyddoniaeth
Ynys Blastig yn cyflwyno 'Cylchdro' - gweithdy celf ar bêl-droed, merched a'r mislif.
I Mewn i'r Gôl - Spencer Harris
11:00 - Maes D
Spencer Harris - is-lywydd anhrydeddus Clwb Pêl-droed Wrecsam ac enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Dinbych 2001 - fydd yn ymuno ag Alun Owens ac Arwel Lloyd Owen o bodlediad 'I Mewn i'r Gôl' i drafod hynt a helynt Cymru, Wrecsam a phêl-droed.
Mercher, 09/08/23
Uwchgylchu Het Fwced gyda ALIS.KNITS
11:00 + 14:00 - Cwt Crefft
Gwnïa het fwced wedi ei phersonoli, neu cydia yn dy hen het fwced a tyrd a hi draw i’w ail-wampio hefo Alis trwy ddefnyddio glityr, brodio a ffabric sgrap!
Iau, 10/08/23
Stand-yp Gŵyl Cymru
12:00 - Caffi Maes B
Lolian am bêl-droed hefo Daniel Griffith, Beth Jones a Josh Pennar - gyda Esyllt Sears (MC) yn chwarae reffari.
Gwener, 11/08/23
Mas ar y Maes Pêl-droed: Welsh Ballroom Community
Trwy’r dydd / All day - Y Maes
Perfformiad theatrig gan Welsh Ballroom Community yn dehongli'r berthynas rhwng pêl-droed â’r gymuned LGBTQIA+.