Tŷ Siamas | Hywel Pitts, Lo-fi Jones, Catrin O'Neill
Tŷ Siamas - 2 Mawrth 2024
20:00 | Nos Sadwrn, 02.03.2024
Noson o gerddoriaeth gwerin i nodi ail-agoriad canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau.
Hywel Pitts - Canwr a digrifwr o Lanberis. Disgwyliwch ganeuon dychan a deunydd coch...
Lo-fi Jones - Band gwerin-amgen pedwar rhan o Fachynlleth a Chaerdydd. Enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Catrin O'Neill - Cerddor gwerin Cymraeg a Cheltaidd o Aberdyfi.
Tocynnau £12 ar wefan tysiamas.cymru.
*Bydd cyfran o elw'r noson yn mynd tuag at Glwb Pêl-droed Dolgellau.