Tafwyl
Caerdydd - 15 Gorffenaf 2023 - 16 Gorffenaf 2023
Mae gŵyl gelfyddydol Gymraeg Caerdydd yn symud i Barc Bute eleni, a bydd Gŵyl Cymru yno gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau cerddorol, sgyrsiau, trafodaethau a sesiynau phêl-droed.
Gwener, 14/07/23
Tafwyl x Clwb Ifor Bach x Gŵyl Cymru
19:00 - Clwb Ifor Bach
Yws Gwynedd bydd yn cychwyn ar ddathliadau'r ŵyl yn ail gartref Tafwyl, Clwb Ifor Bach.
Sadwrn, 15/07/23
"Bendigedig, gwych... ond anodd!"
18:00 - Pabell Ysgolion
Beth sydd nesaf i'r seren bêl-droed Joe Ledley, yn dilyn cychwyn ar ei siwrne fel siaradwr Cymraeg newydd dan arweiniad Dylan Ebenezer ar gyfres S4C, Iaith ar Daith.
Sul, 16/07/23
‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’
15:15 - Llais
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno sgwrs rhwng Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, a'i diwtor Cymraeg, Aron Evans, yn dilyn blwyddyn o bartneriaeth rhwng Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a'r Gymdeithas, wrth i 25 o aelodau staff a charfan Cymru ddechrau ar eu siwrne fel siaradwyr Cymraeg newydd.
Ani Glass yn holi Ian Gwyn Hughes
16:00 - Pabell y Dysgwyr
I Ani Glass, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi Ennill yn Barod gyda'u gwaith diffuant o hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru i'r byd. Un sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y datblygiadau dros y blynyddoedd yw Ian Gwyn Hughes. Cawn glywed am sut mae'r Gymdeithas wedi creu diwylliant pêl-droed positif, agored a chroesawgar gyda'r Gymraeg yn ganolog i'r weledigaeth.