Gallwn ni godi ffi am docynnau?
Rydym yn gobeithio bod Gŵyl Cymru yn gallu agor eu drysau yn rhad ac am ddim i’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau, ond yn deall bod rhai mathau o ddigwyddiadau yn dod gyda chostau i’r lleoliadau, felly mae digwyddiadau wedi eu tocynnu yn dderbyniol. Os ydych yn gwerthu tocynnau, bydd angen i chi greu eich tudalen Eventbrite (neu debyg) eich hunain a rhannu’r linc hefo ni wrth gofrestru eich digwyddiad.
Oes rhaid i ni ddangos pob gem Cymru?
Yn ddelfrydol, byddai pob gem yn cael eu dangos yn eich lleoliad/digwyddiad - hyd yn oed ar sgrin fach.
Pa fath o ddigwyddiad gallwn ni drefnu?
Byddwch yn greadigol! Mae croeso i chi drefnu a chynnal unrhyw fath o ddigwyddiad sy’n hyrwyddo Cymru, creadigrwydd a chymuned. Dyma rai syniadau i ddechrau arni:
Cerddoriaeth byw | Comedi | Barddoniaeth | Gweithdai a digwyddiadau i blant | Comisiynu gwaith celf | Theatr | Gweithdy ysgrifennu | Podlediad byw | Arddangosfa gelf | Dangosiad ffilm | Gweithdy celf | Setiau DJ | Sgyrsiau neu sesiynau holi ac ateb | Dawns | Sesiwn jamio | Technoleg
Gawn ni drefnu mwy nag un digwyddiad?
Cewch, a chroeso! Byddai’n wych gweld rhaglen o ddigwyddiadau yn eich lleoliad dros gyfnod yr ŵyl. Cofiwch gofrestru pob digwyddiad yn unigol ar y ffurflen gofrestru, os gwelwch yn dda.
Oes rhaid i’r digwyddiad gael cyswllt amlwg â phêl-droed?
Er mai Cwpan y Byd fydd y thema sylfaenol yn plethu trwy’r holl ddigwyddiadau a ffurfiau celf, does dim rhaid i’r digwyddiadau fod yn benodol am bêl-droed.
Ydych chi’n cyllido digwyddiadau?
Ni fydd CBDC yn cyllido digwyddiadau, ond diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a’r arian maen nhw’n eu codi pob wythnos at achosion da, mae cronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac eraill i ymgysylltu gyda’u cymunedau a dathlu llwyddiant pêl-droed Cymru. Byddent yn derbyn ceisiadau sy’n cyd-fynd â Gŵyl Cymru a Chymru yng Nghwpan y Byd 2022 rhwng dydd Llun 5ed o Fedi - dydd Llun 10fed o Hydref. Bydd rhaid i brosiectau cymwys ddigwydd rhwng dydd Iau 20fed o Hydref a dydd Sul 4ydd o Ragfyr.
Beth fyddwn ni’n ei gael am gynnal digwyddiad?
Bydd digwyddiadau cyhoeddus yn cael ei hyrwyddo trwy rwydweithiau CBDC a bydd pob digwyddiad yn cael mynediad at becyn o adnoddau digidol llawn fideos, asedau cyfryngau cymdeithasol a rhestrau chwarae i’w defnyddio yn ystod y digwyddiadau. Yn fwy na dim, byddwch yn rhan o rywbeth mwy sy’n uno holl ddigwyddiadau Cymru a Gŵyl Cymru - Gorau Chwarae Cyd Chwarae.