Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru

Cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Diolch i Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag arian achosion da gan chwaraewyr hael y Loteri Genedlaethol, mae cynllun nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru – Creu – yn cefnogi ystod eang o weithgareddau celfyddydol fel rhan o Gŵyl Cymru.

Nod y gweithgareddau hyn yw ehangu cyfranogiad, a chefnogi prosiectau a gweithgareddau llawr gwlad sy'n dod â'r celfyddydau a chwaraeon at ei gilydd. Mewn partneriaeth â Chymdeithas Pêl-droed Cymru, bwriad Cyngor Celfyddydau Cymru yn y tymor hir yw cefnogi a datblygu cysylltiadau agosach rhwng grwpiau cymunedol llawr gwlad, sefydliadau celfyddydol, a chymdeithasau a thîmoedd chwaraeon.